WORKSTEP
| Beth yw WORKSTEP? | [-] |
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy'n ei gwneud yn anodd i chi ddod o hyd i waith neu gadw swydd, efallai y gall SDMT a Cham at Waith eich helpu chi.
Nod Cam at Waith yw darparu cymorth i bobl ag anableddau sy'n wynebu rhwystrau mwy cymhleth o ran dod o hyd i waith a chadw swydd ond sydd, gyda'r cymorth iawn, yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr yn eu swydd a lle bo'n briodol datblygu a symud ymlaen i gyflogaeth brif ffrwd.
Mae Cam at Waith wedi cael ei gynllunio i:
- Ddarparu'r cymorth y mae ei angen arnoch chi a'ch cyflogwr i fod yn addas at eich gofynion
- Eich helpu i ddatblygu a gwella'ch sgiliau — a'ch rhagolygon am swydd
- Darparu cam i gyflogaeth brif ffrwd — os yw honno'n iawn i chi
- Datblygu a gwella'ch sgiliau gwaith a'ch cyflogadwyedd, gan gynnwys y gallu i gydweithio ag eraill a chadw swydd
- Annog datblygiad personol a hybu annibyniaeth i bobl anabl
- Galluogi unigolion i weithio'n effeithiol mewn swydd, gan ganolbwyntio ar eu gofynion nhw a gofynion eu cyflogwr mewn ffordd gynlluniedig a strwythuredig.
- Eich galluogi i weithio'n effeithiol mewn swydd, gan ganolbwyntio ar eich anghenion chi yn ogystal ag anghenion eich cyflogwr
Mae SDMT a Cham at Waith yn darparu amrywiaeth fawr o gyfleoedd gwaith â chymorth sy'n diwallu anghenion amrywiol pobl ag anableddau ac yn adlewyrchu'r galw yn y farchnad lafur leol.
Mae SDMT a Cham at Waith yn cynnig amrywiaeth o gymorth i gyflogwyr a chyflogeion. Mae'r cymorth ymarferol yn cynnwys, er enghraifft, hyfforddwr gwaith neu anogwr gwaith, mentora gan gydweithwyr, cyngor a chymorth gydag ymwybyddiaeth i'r cyflogwr a chyflogeion
| Buddion Cam at Waith | [-] |
|
|
|
Rhan bwysig o Gam at Waith yw cynorthwyo pobl i baratoi ar gyfer gwaith. Mae SDMT yn cynnig pecyn o gymorth cyn-gyflogaeth sy'n cynnwys asesu, mentora a chyfarwyddo wrth chwilio am waith. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gyda'n partneriaid i gynnig profi gwaith a blas ar waith i bobl sydd eu hangen.
| WBeth sy'n digwydd ar ôl i mi gael swydd? | [-] |
Dyw'n cymorth ni ddim yn dod i ben ar ôl i chi gael swydd — dim ond megis dechrau y mae e. Bydd ein staff hyfforddedig yn eich cefnogi yn ystod y cyfnod cychwynnol pwysig yn y gwaith ac ar ôl hynny.
- Rydym yn cyfarfod â'r cyflogwr i drafod eich swydd gydag ef ac i sicrhau y cewch eich trin yn gyfartal fel un o'r gweithlu.
- Rydym yn sicrhau bod gennych gontract cyflogaeth a'ch bod yn cael y cyflog iawn am eich gwaith.
- Rydym yn sicrhau eich bod chi'n cael cyfarwyddiadau Iechyd a Diogelwch digonol.
- Rydym yn sicrhau eich bod chi'n hapus gyda'r holl drefniadau.
Mae SDMT yn monitro cynnydd y bobl sy'n cymryd rhan yng nghynllun Cam at Waith yn rheolaidd ac yn ymweld o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Rydym yn gofyn i chi a'ch cyflogwr am ddiweddariad ar yr hyn yr ydych wedi'i wneud yn y gwaith ac a oes angen gwneud unrhyw beth arall i'ch helpu.
| COFRESTRU AR GYFER CAM AT WAITH | [-] |
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am Gam at Waith a sut i gofrestru, cliciwch ar y cyswllt hwn yma a rhowch eich manylion a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sy'n bosibl.
| Beth mae cyflogwyr wedi ei ddweud am gynllun Cam at Waith MTIB | [-] |
Mae ein sefydliad yn meddwl bod cynllun Cam at Waith yn amhrisiadwy, ac mae staff MTIB yn hynod o gyfeillgar, gwybodus a chefnogol. Mae llinellau cyfathrebu da heb fod wedi’i gorlwytho gyda monitro. Mae'r monitro ffôn ac e-bost yn dda, a'r ymweliadau monitro yn ystwyth ond yn drylwyr.
Bu'r swyddogion datblygu, heb eithriad, yn ardderchog gan dreulio llawer o amser y tu hwnt i'w dyletswyddau yn gwrando ar fy ngweithwyr, ac yn siarad am faterion personol, a hyd yn oed yn ymdrin â phroblemau y daethant ar eu traws yn eu bywydau personol.
Nid yw recriwtio'n broblem yn ein hardal ond ni fyddwn yn petruso rhag gofyn am eich cymorth pe bai angen.
Mae swyddogion Cam at Waith MTIB wedi darparu gwybodaeth dda yn gyson i Hafal ac wedi cefnogi ac annog y staff y maent yn cefnogi drwy'r cynllun.
Mae'r cynllun wedi bod o fudd mawr i'n sefydliad a'i weithwyr. Mae staff wedi gallu gwella yn ei gwaith, wedi eu cefnogi i gymryd swyddogaethau ychwanegol, gwella eu hunan hyder gyda'r wybodaeth nad yw anabledd ddim yn rhwystro eu cynnydd. Mae'r gefnogaeth gan staff MTIB wedi bod yn rhagorol ym mhob maes.
| Beth mae pobl rydym wedi'u helpu'n uniongyrchol wedi'i ddweud am Cam at Waith | [-] |
Mae bod ar Cam at Waith wedi gwneud gwahaniaeth anhygoel i'm bywyd, a bywyd fy nheulu — drwy weithio, hyd yn oed dim ond yn rhan amser rwyf wedi gallu dod yn rhydd o fudd-daliadau a chychwyn gyrfa y gallaf ymdopi â hi.
Cynorthwyodd y gefnogaeth a ddarparwyd i mi wella lefel fy hunan hyder; mae'r gefnogaeth ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth mawr. Teimlaf fod y cynllun Cam at Waith yn helpu i bwysleisio i gyflogwyr nad yw anabledd yn broblem mor fawr â hynny.
Mae wedi bod yn galondid mawr wedi dychwelyd i'r gwaith ar ôl salwch, i wybod bod system gefnogaeth yn ei lle y gellid ddibynnu arni pe bai angen cymorth. Mae pob cyswllt gyda staff wedi bod yn hynod o wybodus ac wedi rhoi anogaeth ac ymdeimlad o sefydlogrwydd ar amser pan fo hunan hyder yn cael ei herio'n arw.
Cynllun da iawn; rydw i'n hynod fodlon gyda'r gwasanaeth.
Rwy'n hynod ddiolchgar am yr help â'r gefnogaeth a gefais. Maent wedi bod o gymorth mawr, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny.
Sut allai MTIB wella eu gwasanaeth? Does dim angen; maent yn ardderchog.

