Navigation


Navigation

RSS: NEWYDDION



Gwasanaethau

Cwsmeriaid - dan gontractau

SDMT yw un o ddarparwyr mwyaf Cam at Waith, cynllun gwasanaeth cyflogaeth y llywodraeth ganolog, yng Nghymru. Mae ganddo hefyd Gytundebau Lefel Gwasanaeth gyda nifer o Awdurdodau Unedol. Mae'r contractau gyda'r cwsmeriaid hyn yn cael eu hadolygu bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau SDMT yn cael ei chyflawni'n llawn.

Mae'r contractau'n fanwl iawn mewn perthynas â mesurau canlyniadau ac ansawdd, sy'n cael eu monitro ac y rhoddir adroddiad arnynt bob mis. Hefyd gwneir datganiadau ffurfiol bob chwarter i'r Gwasanaethau Cyflogaeth, prif gwsmer contract SDMT.

Mae Rheolwr Contract Cam at Waith yn cynnal ymweliadau monitro rheolaidd, ac mae'n rhoi adborth gwerthfawr, datblygiadau contract a pherfformiad cystadleuwyr. Mae SDMT yn canolbwyntio ar ansawdd a darparu mwy na'r nifer yn y contract, sy'n gwella'r gwerth am arian y mae'r cwsmer hwn yn ei fynnu. Gellir mesur pa mor fodlon yw'r cwsmer yn y maes hwn o'r ffaith y dyfarnwyd 115 mwy o leoedd wedi'u hariannu dros y tair blynedd diwethaf.


Mewnwelediad

"Ers dechrau gyda Crossroads, mae Martyn wedi rhagori yn y sefydliad; mae wedi cael ei ddyrchafu'n Swyddog Hyfforddi.


Cysylliadau Cyflym


Newyddion


Rhoddi


Rhestr Bost