Crynodeb o'r prosiect Glasbrint
Prif nod "Glasbrint i'r Dyfodol" SDMT yw darparu mwy o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i'r bobl ddifreintiedig a mwy bregus yn ein cymdeithas, sef pobl anabl, gan hybu cynhwysiant cymdeithasol trwy roi iddynt y sgiliau angenrheidiol i integreiddio i gyflogaeth brif ffrwd.
Bydd hyn yn cynnwys asesiad manwl, hyfforddiant seiliedig ar waith a chynlluniau dilyniant cyflogaeth ar gyfer amrywiaeth fawr o alwedigaethau. Er enghraifft:
- Gweithgynhyrchu
- TGCh
- Gwasanaethau cwsmeriaid
- Gwaith warws
- Gweinyddu
Nid oes unrhyw gyfleuster arall fel hwn yn yr ardal i grwp cleientiaid sydd dan gymaint o anfantais. Oherwydd bod SDMT wedi cynllunio at y dyfodol bydd yna siop un stop, sy'n canfod ac yn darparu sgiliau a chyfleoedd newydd y mae'r sector preifat yn galw amdanynt o hyd.
Bydd y datblygiad newydd hwn yn ymgorffori'r canlynol, ymysg pethau eraill:
- Uned gweithgynhyrchu
- Swyddfeydd gweinyddu
- Canolfan adnoddau
- Warws a storfa
- Canolfan asesu a hyfforddi
- Canolfan Ymwelwyr
Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau gwell a mwy modern, yn gwella iechyd a diogelwch a'r amgylchedd gwaith ac yn rhoi'r hyblygrwydd i SDMT ddatblygu mewn sawl maes.
Bydd y prosiect yn cynyddu potensial SDMT ym meysydd hyfforddiant a chyflogaeth trwy ddarparu nifer o ystafelloedd hyfforddi a chyfleoedd am hyfforddiant seiliedig ar waith; hefyd bydd yr ehangu'n creu nifer fwy o gyfleoedd am waith. Bydd SDMT hefyd yn gallu cynnig asesu, adsefydlu a hyfforddi gyda'r nod o symud ymlaen i gyflogaeth brif ffrwd mewn modd mwy strwythuredig a realistig trwy wireddu potensial llawn y cleientiaid.
Bydd y Ganolfan Adnoddau'n cynnig amrywiaeth o gymhorthion, addasiadau ac efelychiadau o amodau byw i bobl â nifer o wahanol anableddau, gan gynnwys pobl ddall a rhannol ddall.
Bydd y Ganolfan Ymwelwyr yn cynyddu ymwybyddiaeth o'r sefydliad, o botensial pobl anabl ac o'r cymorth a'r hyfforddiant sydd ar gael i'r grŵp difreintiedig hwn. Byddai effaith amgylcheddol y datblygiad newydd yn golygu y byddai'r holl wastraff yn cael ei ddidoli i gynwysyddion ar wahân a'i ailgylchu. Gellid defnyddio rhywfaint i wresogi'r ffatri, anfon rhywfaint i gyfleusterau ailgylchu yn yr ardal a hyd yn oed gwerthu rhywfaint yn uniongyrchol, ac felly gwneud cyfraniad i'r busnes ac yn anad dim lleihau angen SDMT i anfon gwastraff i safle tirlenwi.




