Amdanom Ni
Hanes
1923 - 1933
Dechreuodd SDMT fel gweithdy gwarchodol i 14 o lowyr dall. Yn ddiweddarach daeth yn elusen gofrestredig, lle dechreuodd gweithwyr dall a rhannol
ddall wneud cynhyrchion megis basgedi wedi'u gwehyddu, sanau wedi'u gwau, brwshys ac ati. - Penodwyd asiantau'r llywodraeth er lles y deillion ym mwrdeistref Merthyr Tudful a dechreuwyd cael arian dan ddeddfwriaeth gan lywodraeth leol.
1945 - 1960
Roedd newid yn y gyfraith yn awr yn caniatÁu i SDMT gyflogi pobl ag amrywiaeth o anableddau, ac felly roedd modd gwneud cynhyrchion newydd.
1981 - 2001
Oherwydd tân yn y gweithdy ym Mhontmorlais bu'n rhaid i SDMT symud i'r safle ym Maes-gwyn, Cefn Coed. Mae SDMT yn ymuno â'r Cynllun Lleoliadau dan Gymorth, gan leoli unigolion gyda sefydliadau lleol sy'n rhoi hyfforddiant a chyflogaeth iddynt. Cyrhaeddodd SDMT safon Buddsoddwyr mewn Pobl ym mlwyddyn ei 75ed pen-blwydd ac enillodd Wobr Datblygu Pobl yng Ngwobrau Ansawdd Cymru, a noddwyd gan y gwasanaethau cyflogaeth
Cyrhaeddodd SDMT rownd derfynol Gwobrau Busnes y Western Mail.
MTIB Heddiw
Bellach mae SDMT yn cyflogi dros 64 o bobl yn y gweithdy yn y pencadlys newydd ym Mharc Busnes Triongl, Pentrebach, Merthyr Tudful. Bellach mae SDMT yn gwneud cynhyrchion ar gyfer y diwydiant dodrefn megis fframiau cadeiriau gogwyddo, ffabrigo pren a cherdyn/ffibr, botymau wedi'u clustogi, mopiau llawr a hefyd ein dodrefn gardd ein hunain.
Mae pob cyflogai yn y gweithdy wedi cael NVQ lefel 1 o leiaf ac mae llawer wedi cael NVQ lefel 2 neu'n gweithio tuag ati
Mae SDMT hefyd yn cynorthwyo 205 o unigolion mewn lleoliadau gyda chwmnïau sy'n eu derbyn ledled y De ar raglen Cam at Waith.

From L-R Linda Badman - Wales Director Jobcentre Plus, Dai Havard MP - Merthyr Tydfil and Rhymney, John Hutton MP - Secretary of State for Department for Work and Pensions and John Stacey - CEO, MTIB
Andrew Smith MP (Gweinidog dros Waith a Phensiynau)
"Mae'r gwaith a wneir yn Sefydliad y Deillion wedi gwneud argraff fawr arnaf. Roeddwn i'n Weinidog dros bobl anabl a dyma'r cyfleuster gorau o'i fath rwyf wedi'i weld yn y wlad.".

Yr ydym yn ymddiheuro. Nid cheir unrhyw swydd wag ar hyn o bryd. Dewch yn ôl i weld yn y dyfodol agos.
Datganiad o Genhadaeth SDMT
"Rhoi cyfle i bobl ag anableddau gael cyflogaeth barhaol"
Vision
Rhoi i bobl anabl fodd i gyfranogi i'r graddau y maent yn eu dewis trwy raglen cyflogaeth dan gymorth.
Proses gynyddol yw'r rhaglen, o fan cychwyn mewn gweithdy gwarchodol, trwy asesu, hyfforddi a datblygu mewn meysydd sgiliau penodol, i'r cyfle i gael lleoliad gyda chyflogwr sy'n derbyn ein cleientiaid. Yn y pen draw, trwy gymorth sy'n lleihau'n raddol, gall y rheiny sy'n abl gael eu hintegreiddio'n llawn i gyflogaeth brif ffrwd.
Bydd SDMT yn parhau i annog cynnydd ei gleientiaid yn y rhaglen ac o'r rhaglen.
Un nodwedd bwysig yw y gall unigolion gychwyn ar y rhaglen ar unrhyw gam sy'n addas at eu hanghenion penodol nhw.




